Switch to English en_GB

Y Canon Ganghellor – Y Parchedig Ganon Jan van der Lely

Ordeiniwyd Jan yn 2009  a bu’n gweinidogaethu yn Esgobaeth Caerloyw cyn dod i Landaf yn Ganon Ganghellor yn 2019. Cyn ei hordeinio, bu’n athrawes Addysg Grefyddol, Seicoleg a Chymdeithaseg  Uwchradd yn Cheltenham, Caerloyw a’r Swisdir. Yn ei swydd ddysgu ddiweddarag, roedd yn Gaplan i’r ysgol.

Mae ganddi radd doethuriaeth mewn Diwinyddiaeth a gradd meistri mewn seicotherapo a chyngori. Mae Jan yn briod â Graham, sydd yn rhannol o’r Iseldiroedd ac yn arddwr wedi ymddeol (y rhan fwyaf o’r amser). Mae Graham yn llywodraethwr Coleg a Phrifysgol Hartpury a Phrifysgol Gorllewin Lloegr.

Y Canon Bencantor  – Y Parchedig Canon Ian Yemm

Yn dilyn astudiaethau gradd mewn cerddoriaeth a Diwinyddiaeth, bu i Ian Yemm hyfforddi yn y Coleg Cerdd Brenhinol a’r Academi Gerdd Frenhinol cyn mwynhau gyrfa lwyddiannus fel cerddor proffesiynol a thiwtor llais. Am bron i ddegawd, bu’n Gaplan Cydlynu ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr, yn Is-Gadeirydd Bwrdd Addysg Esgobaethol Bryste ac yn aelod etholedig o Synod Cyffredinol Eglwys Loegr. Ar ôl cael ei ordeinio yng Ngholeg Sant Padarn, bu’n giwrat yn y Bontfaen a dilyn ei alwad gyntaf yn Radyr. Mae Ian yn Ymgynghorydd Galwedigaethol ac mae ganddo Radd meistri mewn Ysbrydolrwydd Cristnogol.

Yn ddiweddar, etholwyd Ian i Gorff llywodraethol yr Egwlys yng Nghymru ac fe’I urddwyd yn Ganon Bencantor yng Nghadeirlan Llandaf, lle mae ganddo gyfrifoldeb dros Addoliad, yr Adran Gerdd a Chôr y Gadeirlan. Mae’n briod â Bernhard, sydd wedi gweithio fel meddyg yn y Gwasanaeth Iechyd Gyhoeddus ers dros ugain mlynedd.

Archddiacon Margam – Yr Hybarch Mark Preece

Brodor o Bort Talbot yw’r Archddiacon Mark a bu’n gweinidogaethu gydol ei yrfa yn Esgobaeth Llandaf, gan gynnwys Penarth, Penybont a’r Fro yn dilyn ei ordeinio ym 1987.

Ymunodd â Chabidwl y Gadeirlan yn 2014 tra’n Rheithor yn Nhreganna. Daeth ei weinidogaeth yn y Gadeirlan i ben yn 2023 ar ei ddyrchafiad yn Archddiacon Margam.

Canon y Cabidwl – Y Parchedig Ganon Sarah Rogers

Bu Sarah yn ganon clerigol o Gabidwl y Gadeirlan ers Hydref 2023. Mae’n ficer yn Ardal Gweinidogaethu’r Rhondda ac mae’n Ddeon Ardal Ystradyfodwg. Cyn hyn, roedd yn Gaplan i’r Esgob a bu’n Gaplan Ieuenctid yr Esgobaeth ac yn Ficer Abercynon ar ôl cyfnod fel Ciwrat yn Rheithoraeth Caerffili, fel y’i gelwid ar y pryd.

Mae profiad Sarah o’r Gadeirlan yn dyddio o gyfnod pan bu’n un o’r pwyfolion rhwng 1993 a 1999. Yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd yn aelod gweithgar o ‘r gweinyddion, yn aelod o gantorion y plwyf yn ogystal a bod yn wirfoddolwr yn y siop a’r ystafell de. Bu’n hebryngwr i’r côr yn ogystal. Mae Sarah’n byw yn y Ficerdy yn Nhonypany gyda’i chi, Rowan.

Y Canon Drysorydd  – Mr Robert Lewis FCA

Mae Rob wedi cyflawni swyddogaeth y Canon Drysorydd ers Mehefin 2021. Mae Rob yn Gyfrifydd Siartredig ac mae’n gweithio fel partner gyda PricewaterhouseCoopers, cwmni gwasanaethau proffesiynol byd-eang, lle mae’n Brif Weithredwr yr Adran Ail-Strwythuro a Fforensic y DU. Fel Ymarferydd Ansolfedd Trwyddedig, mae Rob yn cynghori busnesau mawrion ar faterion yn ymwneud ag ailstrwythuro ariannol ac ansolfedd.

Daw Rob â phrofiad helaeth iawn o’r byd ariannol i’r elusen, ac fel Trysorydd, ef sy’n gyfrifol am lês ariannol y Gadeirlan.  Mae hyn yn golygu mae Rob sy’n atebol am arsylwi’r incwm a gwariant dyddiol, yn ogystal a sicrhau fod buddsoddiad priodol yn adeilad a gweinidogaeth y Gadeirlan a sut gellir ariannu’r rhain yn y ffordd orau posib. Fel rhan o’i swyddogaeth fel Canon Drysorydd, mae Rob yn cadeirio’r Pwyllgor Cyllid sy’n cwrdd yn fisol. Mae Rob yn Gymro Cymraeg ac yn byw yn Llandaf gyda’i wraig, Blod. Mae’r ddau yn addolwyr cyson yn y Gadeirlan.

Canon Lleyg – Mrs Ceri Weatherall

Apwyntiwyd Ceri’n Ganon Lleyg ym Mehefin 2019 ar ei hymddeoliad yn Bennaeth Ysgol Sant Teilo – yr Ysgol Ffydd fwyaf yng Nghymru. Bu’n athrawes am 37 mlynedd a threuliodd 32 o’r blynyddoedd hynny mewn Ysgolion Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru.

Mae gan Ceri brofiad helaeth o addysgu, arweiniad a rheolaeth yn y sector addysg. O dan arweiniad Ceri, tyfodd poblogaeth St Teilo o 1,000 i 1,500 o ddisbyblion mewn adeilad oedd yn diwallu anghenion cymuned o amrywiaeth economaidd a chymdeithasol. Sefydlodd Ceri ymborth addysgiadol ar gyfer pob un o dan ei gofal oedd wedi’i wreiddio mewn: Rhagoriaeth, Cydraddoldeb a Ffydd. Mae’r profiad hwn o arwain sefydliad cyhoeddus wedi galluogi Ceri i gynnig i’r Cabidwl gyngor ac arweiniad ym meysydd Diogelu, Adnoddau Dynol a Chyfrifoldeb dros Gyllideb.

Yn 2023, bu i Ceri gymeryd at yr awennau fel Is-Gadeirydd y Cabidwl. Yn y rôl hwn, mae hi wedi cadeirio cyfarfodydd, wedi apwyntio staff ac wedi cefnogi cydweithwyr i lunio strategaethau sydd yn drawsnewidiol, yn gynhwysol ac yn dryloyw.

Mae gan Ceri ddau o blant ac mae hi’n byw yn Sain Ffagan gyda’i gŵr, Malcolm. Mae’n addoli yn Eglwys Fair Sain Ffagan, eglwys o fewn Ardal Gweinidogaeth y Garth. Mae Ceri wedi byw a gweithio yn Llandaf ac yn croesawu’r cyfle fel Canon Lleyg i ail-gysylltu gyda theuluoedd a chymuned oedd yn cyd-addoli a chafodd yr anrhydedd o’u haddysgu.

Canon Lleyg – Mr Paul Bennett

Bu Paul yn Ganon Lleyg ers Mehefin 2019. Mae e’n gyfreithiwr ac yn bartner mewn cwmni cyfreithiol mawr yng Nghastell-nedd. Ar y foment, Paul yw’r Uwch Grwner dros Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, swyddogaeth y mae wedi ei ddal ers Mehefin 2020. Cyn hynny, ef oedd Dirprwy Grwner Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot am with mlynedd.

Mae Paul wedi gwasnaethau fel Warden Rheithoraeth Castell-nedd am with mlynedd cyn sefydlu Ardal Gweinidogaeth Afon Need, lle mae’n Drysorydd ers Ionawr 2022.

Chwaraeodd Paul ran allweddol ym mhrosiect ad-drefnu Eglwys Dewi Sant, Caastell-nedd yn 90au hwyr. Roedd hwn yn brosiect oedd yn cynnwys symiau sylweddol o gyfalaf grant ac a barhaodd pan adnewyddwyd y tŵr, gostiodd dros £1m. Yn ei swyddogaeth fel trysorydd y weinidogaeth, Paul sy’n arsylwi rhoeaeth ariannol y saith eglwys yn yr ofalaeth ac mae’n gadeirydd y Grŵp Cyllid sy’n cwrdd yn fisol. Mae Paul yn aelod o bwyllgor arwain yr Ardal Gweinidogaeth.

Mae Paul yn aelod o gôr Eglwys Dewi Sant ers dros hanner can mlynedd. Ei wraig, Helen, yw Ysgrifennydd yr Ardal ac mae hi’n Is-warden Eglwys Dewi Sant.

The Greater Chapter

The Greater Chapter consists of clergy and lay people from across the Diocese and supports the Dean and Chapter.

  • Ms Mari McNeill
  • Mr Michael Plaut
  • Mr Mike Lawley
  • Ms Auriol Miller
  • Mrs Clare Sherwood
  • The Reverend Canon Elaine Jenkyns
  • The Reverend Canon Sarah Jones
  • The Reverend Canon Dr Trystan Owain Hughes
  • The Reverend Canon Jan Gould
  • The Reverend Canon Michael Jones
  • The Reverend Canon Lynda Newman
  • The Reverend Canon Michael Gable
  • Lord Dafydd Elis Thomas
  • The Reverend Canon Philip Masson
  • The Reverend Canon Stewart Lisk
  • The Reverend Canon Peter Cox
  • The Reverend Canon Edwin Counsell
  • The Venerable Roderick Green