Switch to English en_GB

Dathlu Cymun y Sul yw’r brif weithred o addoli yng nghymuned y Gadeirlan. Mae croeso cynnes i ymwelwyr ddod i unrhyw un o’r gwasanaethau ac i gyflwyno eu hunain i’r clerigwyr os ydyn nhw’n dymuno. Gall pob gwasanaeth newid, felly cadwch lygad isod am y wybodaeth ddiweddaraf:

8.00am Cymun Bendigaid [1984]

Yn y Cymun, mae’r Eglwys yn cofio swper olaf yr Iesu lle rhoddodd fara a gwin yn gorff a gwaed iddo, yn arwydd o’i gariad achubol.

Caiff y gwasanaeth hwn ei ddathlu yng nghorff y Gadeirlan drwy ddefnyddio’r defodau a nodwyd yn rhifyn 1984 o’r Llyfr Gweddi Cyffredin.

9.00am Cymun Bendigaid

Mae’r gwasanaeth hwn, i bobl o bob oed, yn addoliad bywiog a phoblogaidd, sy’n arbennig o addas i deuluoedd â phlant ifanc. Bob wythnos yn ystod y tymor rydyn ni’n croesawu dros 100 o blant i’n Ysgol Sul.

Caiff te, coffi a thost eu gweini yn Nhŷ’r Prebend ar ôl y gwasanaeth sy’n gyfle delfrydol i ymwelwyr neu addolwyr newydd gwrdd â’r clerigwyr, staff y Gadeirlan a phlwyfolion eraill.

11.00am Cymun Corawl

Ers y cyfnod Cristnogol cynharaf mae’r gair Ewcharist, sy’n dod o’r gair Groeg am ‘ddiolchgarwch’, wedi cael ei ddefnyddio i ddisgrifio’r sacrament a sefydlodd Iesu Grist yn y swper olaf. Mewn ffyddlondeb i gyfarwyddyd ein Harglwydd i ‘wneud hyn er cof amdanaf’ roedd yr Ewcharist felly yn cael ei ystyried yn rhan hanfodol o addoliad yn yr eglwys fore, ac erbyn hyn mae’n parhau i fod yn weithgaredd litwrgaidd canolog i’r rhai bedyddiedig.

Mae litwrgi’r gwasanaeth sanctaidd hwn yn cael ei ddyrchafu drwy’r gerddoriaeth sy’n cael ei pherfformio gan Gôr y Gadeirlan, neu gorau gwadd yn ystod gwyliau’r ysgol.

Gweinir lluniaeth yn y Gadeirlan ar ôl y gwasanaeth. Mae croeso i ymwelwyr ac addolwyr newydd ymuno â ni ac i achub ar y cyfle i gwrdd â’r clerigwyr a phlwyfolion eraill.

Defnyddir arogldarth yn y Gwasanaeth hwn

4.00pm Gosber Corawl

Cynigir Gosber Corawl yn y Gadeirlan am 4.00pm ar y Sul. Mae’r gwasanaeth yn dilyn arferiad eglwysi sydd â thraddodiad corawl gwych, lle mae llawer o’r gwasanaeth yn cael ei ganu gan Gôr y Gadeirlan, neu gorau gwadd o bryd i’w gilydd.  Mae’n cynnig gofod ar gyfer gweddi, myfyrio a diolchgarwch.

Sunday event calendar

Sunday 12th May