Switch to English en_GB

Roedd John Marshall yn Esgob Llandaf o 1478 hyd ei farwolaeth yn 1496.

Lleolir ei feddrod aro chr ogleddol y cysegr ac yn ei Ewyllys, nododd y dylid cadw llyfr Salmau wedi’i gadwyno yno.

Y panel yw’r unig ran o Sedd Esgobaethol Marshall sydd wedi goroesi ac mae’n enghraifft bwysig o lun canoloesol hwyr.

Mae’r llun yn dylunio Esgyniad y Forwyn Fair i’r Nefoedd wedi’I marwolaeth. Mae’r ysgrifiad Lladin yn darllen: ‘O Wyryf sy’n esgyn, agor borth y nef i Marshall’.

Mae’r panel o dderw Cymreig yn cynnwys angylion yng nghwmni Mair ac yn y gornel dde, ar waelod y llun, mae Marshall ei hun.

Wrth ail-adeiladu’r Gadeirlan yn y 18fed ganrif cynnar, ail-ddefnyddiwyd y panel fel canopi dros yr allor. Mae ysgrifiad o’r cyfnod yn darllen: ‘Part of Bishop Marshall’s Throne / done in the year 1480 and set here / in ye year 1736 / September … / by Thomas Omar & Robert Davies / Joyners’.

Fel rhan o’r adferiad wedi’r rhyfel, gosodwyd y panel mewn sedilia pren gan y pensaer George Pace. Fe’i symudwyd i’w le presennol ym 2021 yn dilyn ei gadwriaeth gan Rachel Howells.

Ariannwyd y gwaith cadwriaethol gan Gyfeillion Cadeirlan Llandaf, Ymddiriedolaeth Leche, Ymddiriedolaeth Gadwriaethol St Andrew a chronfa William a Jane Morris o Gymdeithas Henebion Llundain.