Switch to English en_GB

Mae Côr y Gadeirlan yn canu mewn saith gwasanaeth yr wythnos yn ystod y tymor. Dechreuodd y côr yn ei ffurf bresennol yn dilyn adferiad Fictoraidd adeilad y Gadeirlan, a sefydlwyd Ysgol y Gadeirlan yn Llandaf gan Dean Henry Vaughan yn 1880 i addysgu bechgyn Côr y Gadeirlan. Sefydlwyd Côr Merched y Gadeirlan gan Ysgol y Gadeirlan yn 1996, ac yn dilyn newid hanesyddol yn 2021, cafodd y merched eu croesawu’n ffurfiol i adran gerdd y Gadeirlan ac yn rhan o Gôr y Gadeirlan. O fis Medi 2022, gwireddwyd cyfle cyfartal llawn i fechgyn a merched sy’n dymuno bod yn aelodau o’r côr yn Llandaf, ac maen nhw bellach yn rhannu dyletswyddau yn gyfartal. Mae holl aelodau’r Côr yn mynychu Ysgol y Gadeirlan sef yr unig Ysgol Eglwys Gadeiriol Anglicanaidd sy’n weddill yng Nghymru.

Mae Rhes Gefn Côr y Gadeirlan yn cynnwys tîm talentog o oedolion sy’n gantorion lleyg ac Ysgolorion Corawl sy’n canu Alto, Tenor a Bas. Maen nhw’n ymuno ag aelodau’r côr yn y rownd wythnosol o wasanaethau, ac mewn cyngherddau, recordiadau, darllediadau a digwyddiadau eraill. Mae’r Côr wedi’i glywed yn rhyngwladol ar ddarllediadau, yn fwyaf diweddar ar gyfer gwasanaeth a fynychwyd gan Ei Fawrhydi Y Brenin a’r Frenhines Gydweddog a ddarlledwyd yn fyw ar draws y byd.

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth ar gyfryngau cymdeithasol Côr y Gadeirlan

  • Aelodau’r Côr

    Mae aelodau côr Eglwys Gadeiriol Llandaf yn cynnwys deunaw o fechgyn a deunaw o ferched. Mae’r ddau gôr, sydd ar wahân, yn canu mewn gwasanaethau bob wythnos gydag oedolion y côr, ac yn perfformio ar eu pen eu hunain yn achlysurol. Caiff holl aelodau’r corau eu haddysgu yn Ysgol y Gadeirlan, Llandaf. Dyfernir ysgoloriaethau i aelodau’r corau ar ffurf gostyngiad hael yn eu ffioedd ysgol.

    Fel arfer, mae aelodau’r Côr ar gyfnod prawf ym Mlwyddyn 4 neu Flwyddyn 5 (8 neu 9 oed) ond gall hyn amrywio, ac rydyn ni’n croesawu ymholiadau ynglŷn â mynediad i unrhyw grŵp blwyddyn. Maen nhw’n gadael y côr fel arfer ar ddiwedd Blwyddyn 9 (14 oed) neu pan fydd llais bachgen yn newid.

    Mae’r newydd ddyfodiaid i’r côr yn cymryd rhan mewn rhaglen ragarweiniol blwyddyn o hyd lle maen nhw’n ymgymryd ag amserlen â llai o ddyletswyddau ac yn treulio amser yn gweithio gyda’r Hyfforddwr Llais, gan ganiatáu iddyn nhw addasu i fywyd y côr yn raddol.

    Mae’r Côr yn darparu cerddoriaeth ar gyfer yr addoli dyddiol yn Eglwys Gadeiriol  Llandaf ac yn canu mewn saith gwasanaeth yr wythnos yn ystod y tymor. Maen nhw’n ymarfer bob bore cyn ysgol. Maen nhw’n canu yn y Gosber bob yn ail noson yn ystod yr wythnos, yn rhannu’r gwasanaethau ar y penwythnosau, ac yn cymryd rhan mewn gwasanaethau arbennig adeg y Pasg a’r Nadolig yn ogystal â digwyddiadau Esgobaethol a Chenedlaethol.

    Mae aelodau’r côr yn cael nifer o gyfleoedd, gan gynnwys cymryd rhan mewn cyngherddau, teithiau, recordiadau masnachol a darllediadau radio a theledu.

    Cynhelir clyweliadau am aelodau newydd o’r côr yn ystod tymor y Gwanwyn. Gellir cael mwy o wybodaeth am lefydd yn y côr ar wefan Ysgol y Gadeirlan fan hyn.

  • Cantorion sy’n Oedolion

    Mae Rhes Gefn Côr y Gadeirlan yn cynnwys tîm ymroddedig o oedolion sy’n canu Alto, Tenor a Bas. Maen nhw’n ymuno ag aelodau’r côr yn y gwasanaethau yn ystod yr wythnosol ac ar benwythnosau, ac mewn recordiadau, darllediadau, ac weithiau’n canu fel grŵp ar wahân. Mae gan Gôr y Gadeirlan repertoire eang o gerddoriaeth, ac mae aelodau’r Rhes Gefn yn gantorion corawl profiadol a thalentog sy’n dod o bob cefndir; mae rhai yn gantorion proffesiynol neu led-broffesiynol, eraill yn fyfyrwyr a nifer o alwedigaethau eraill heblaw hynny.

    Mae gennym wastad diddordeb mewn clywed gan bobl a hoffai ymuno â’n tîm.

  • Ysgolorion Corawl

    Mae Eglwys Gadeiriol Llandaf yn falch o allu cynnig tair Ysgoloriaeth Gorawl (un yr un ar gyfer Alto, Tenor a Bas) bob blwyddyn academaidd.  Mae’r ysgoloriaethau hyn yn cynnig cyfle unigryw i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig i brofi bywyd mewn adran gerdd egnïol, gan ganu ochr yn ochr â’n rhes gefn mewn cyngherddau, recordiadau a darllediadau o bwys. Mae cyfleoedd hefyd i ymwneud â bywyd ehangach cymuned y Gadeirlan. Ochr yn ochr â’r tâl blynyddol, daw’r ysgoloriaethau â bwrsari blynyddol pellach ar gyfer gwersi cerddoriaeth neu sgorau cerddorol, a’r cyfle am waith cyflogedig pellach gyda Chׅôr y Gadeirlan ar adegau sydd y tu allan i amserlen arferol yr ysgolor.

    Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Ysgoloriaethau Corawl, cysylltwch â’r Cyfarwyddwr Cerdd, Stephen Moore

Sesiwn Tynnu Lluniau Côr y Gadeirlan yn Llandaf ar 09 Gorffennaf 2023. Llun: Adam Davies