Switch to English en_GB

Rydym yn croesawu ymholiadau parthed teithiau grŵp o amgylch Cadeirlan Llandaf. Rydym yn crybwyll rhodd o £5 y pen am daith.

Mae taith yn cymeryd tua 45 munud i awr, felly bydd angen neilltuo’r amser yma wrth archebu. Fel arfer, bydd y canlynol yn cael eu cynnwys wrth i ni olrhain hanes Cadeirlan Llandaf.

Y Cyfnod Celtaidd – 6ed i 11eg Ganrif

Gan ddechrau gyda’r setliad cynnar yn 560AD, trafodir gwreiddiau new a lleoliad y Gadeirlan. Bydd sôn am y Nawdsaint Celtaidd Dyfrig, Teilo ac Euddogwy.

Y Cyfnod Normanaidd – 12fed Ganrif

Yr Esgob Urban a ddechruod adeiladu’r Gadeirlan ym 1120; Cystadleuaeth rhwng yr Eglwysi Cadeiriol a Llyfr Llandaf.

12fed i 13eg Ganrif

Datblygaidau pellach ac estyniadau gan gynnwys Eglwys Fair a Thŷ’r Cabidwl.

14eg Ganrif

Gwaith sylweddol ar y Gadeirlan gan gynnwys y reredos tu cefn i’r Allor Fawr.

15fed Ganrif

Cyfnod pan ddiofeddodd y Gadeirlan o dan sylw Owain Glyndwr ac estyniad ar ffurf y tŵr Gogledd-Orllewinol.

16eg – 17eg Ganrif

Cyfnod o esgeuluso ac adfeilio. Diwygiad Lloegr 1529 i 1559, yn arwain at Llandaf yn cael ei ystyried yr esgboaeth dlotaf yng Nghymru a Lloegr. Rhyfel Cartref 1642 i 1660, diarddel addoli yn ystod Pasg 1646 a thriniaeth Llandaf o dan Cromwell. Stormydd mawrion y 1700au cynnar a’r canlyniadau i Gadeirlan Llandaf.

18ed Ganrif – Cyfnod o adnewyddu

John Wood o Gaerfaddon yn cael ei gomisiynu i gynhyrchu cynllun adfer ar gyfer y Gadeirlan.

19eg Ganrif

Yr Adferiad Fictorianaidd. Ffyniant yn Ne Cymru o ganlyniad i ddiwydiant. Gwaith John Prichard i adfer yr adeilad. John Seddon a’r gwŷr Cyn-raffaelaidd.

20fed Ganrif

Y Gadeirlan a’r adferiad ar ôl yr ail ryfel byd.

Bydd y daith hon yn cynnwys gweithiau celf enwog megis y Pulpitum, y Majestas a’r Triptych gan Rosetti (Llinach Dafydd).

Gallwch nodi unrhyw agweddau penodol yr hoffech i’r daith ymdrin â hwy a bydd Tywysydd y Gadeirlan yn ymdrechu i gyflawni’r cais.