Switch to English en_GB

Mae Cadeirlan Llandaf yn croesawu pawb a gobeithiwn y gallwn gyrraedd anghenion eich ymweliad.

Byddwch yn ymwybodol fod y Gadeirlan yng ngwaelod allt serth. Nid oes mannau parcio anabl yn Llandaf. Search hynny, ceir maes parcio bychan ar waelod yr all tar ochr Ddwyreiniol y Gadeirlan. Mae drws De-Ddwyrieiniol y Gadeirlan gerllaw sydd yn cynnig mynediad gwastad i’r Gadeirlan. Mae mannau parcio’n gyfyngedig iawn yma. Darpariaeth hygyrchedd:

  • Mae cadair olwyn ar gael yn y Gadeirlan ar gyfer defnydd cyffredinol.
  • Mae mapiau ar gael yng Nghorff y Gadeirlan sy’n dangos llwybrau gwastad.
  • Mae mannau penodedig o fewn Corff y Gadeirlan ar gyfer cadair olwyn. Gallwn sicrhau fod eich grŵp yn cael ei leoli gerllaw, os cysylltwch â ni ymlaen llaw.
  • Nid oes gennym dŷ bach anabl ar hyn o bryd ond mae digon o le a reilen ym mhob ciwbicl o fewn ein toiledau, sydd i’w canfod ar waelod y ramp i’r chwith o ddrws Gorllewinol y Gadeirlan.
  • Mae system ‘lŵp clyw’ ar gael yng Nghorff y Gadeirlan.
  • Mae’r rhelyw o’n taflenni gwasanaeth yn cael eu lanlwytho i’r wefan ac ar gael drwy scanio’r côd QR sydd yn cael eu arddangos ledled yr adeilad.
  • Mae taflenni gwasanaeth bore Sul ar gael mewn print brâs.
  • Mae dewis eang o’n gwasanethau’n cael eu ffrydio’n fyw arlein ar gyfer rhai sy’n methu ymuno.

Buaswn yn dra pharod i drafod unrhyw anghenion hygyrchedd pellach.