Switch to English en_GB

Comisiynwyd Rossetti i greu darlun ar gyfer reredos yr Allor Fawr ym 1855. Cymerodd flynyddoedd iddo lunio’r darlun ac nid oedd yn barod nes 1864, er mawr ryddhad i’r Deon a’r Cabidwl.  Roedd Rossetti’n anfodlon iawn gyda’i leoliad (roedd y golau’n anghywir) a’i osodiad (mewn carreg wen Caen).  Yn ystod adferiad y Gadeirlan wedi’r rhyfel, nid oedd George Pace yn awyddus i ddychwelyd i drefniant Fictorianaidd y cysegr, felly symudwyd y darlun i’r Capel Illtud Newydd o dan Dŵr Jasper. Ym 1989, penderfynodd Donald Buttress, pensaer yr gadeirlan, adnewyddu’r Capel ac oil-osod y darlun mewn fframyn euraid. Mae’n bosib y buasai’r adleoli a’r ailosod wedi bod yn dderbyniol i Rossetti.

Ar yr olwg gyntaf, mae’r darlun yn ymddangos fel darluniad syml o’r geni ond datganodd Rossetti ei fod mewn gwirionedd yn cyflwyno symbol cywasgedig o’r geni. Ei ddymuniad oedd dangos fod Crist wedi olynu o’r tlawd a’r cyfoethog. Cyflawnodd hyn drwy bwysleisio Crist fel un o linach Dafydd, sydd yn cael ei ddylunio yn y paneli ochr fel bugail tlawd ac fel brenin cyfoethog. Roedd yn awyddus hefyd i ddangos fod Crist yn cael ei foli gan y tlawd a’r cyfoethogfelly caiff Crist ei ddylunio’n cael ei foli gan frenin a bugail ar yr un pryd. Mae Crist yn cynnig llaw i’r bugail a throed i’r brenin i symbylu fod tlodi’n uwch na chyfoeth. Mae Crist yn cael ei foli gan angel – bod nefol yn ogystal â bodau dynol.

Pan gomisiynwyd Rossetti, roedd yr artistiaid Cyn-Raffaelaidd yn hynod o ddadleuol o hyd. Un o’r rhesymau dros hyn oedd eu bod yn mynnu dychwelyd i symlrwydd a realaeth yn eu celf. Un agwedd o hyn, yn eu celfyddyd crefyddol a’u celfyddyd seciwlar fel e’i gilydd, defnyddiwyd modelau byw yn hytrach na delweddau o cerfluniau hanesyddol neu gelfyddyd y dadeni. Yn Nhriptych Llandaf, mae modd adnabod y modelau ar gyfer bron i bob ffigwr ac maent yn cynnwys rhai adnabyddus megis William Morris, Edward Burne-Jones, Algernon Swinburne, Lizzie Siddal, Fanny Cornforth, a Jane Burden. 

Er bod anghytuno ynghylch rhai o’r modelau, credir mai Jane Burden, gwraig William Morris, oedd y fodel ar gyfer y Forwyn Fair; Agnes, merch yr artist Arthur Hughes oedd y plenty Iesu; y bard Algernon Swinburne oedd y bugail; Edward Burne-Jones y Brenin.

Fanny Cornforth oedd y model ar gyfer yr angel; Elizabeth Siddal, gwraig Rossetti, yw’r angyles yn edrych dros y wal; gŵr Fanny, Timothy Hughes, oedd Dafydd, y bugail ifanc, a William Morris ei hun yw’r Brenin Dafydd.

Gwaith Morris & Co oedd y gwydr lliw mewn pump o’r ffenestri, dau yn yr eil ddeheuol, un yn ffenestr ddwyreiniol Capel Teilo a dwy arall ar yr ochr ogleddol. Am ragor o wybodaeth, ewch i’r adran Darllen Pellach ar gyfer y llyfr a olygwyd gan N. Lambert neu’r llyfryn gan N. James.

Cysylltiad cyn-raffaëlaidd arall yw’r blaenallor sy’n dylunio’r Oen a’r Faner. Lleolwyd hwn ar flaen yr Allor Fawr Fictorianaidd, nawr yng Nghapel Mair. Fe’i bwythwyd gan Elizabeth (Bessie) Burden, chwaer-yng-nghyfraith William Morris, ym 1868. Phillip Webb, cyfaill oes William Morris, oedd yn gyfrifol am y cynlluniau gwreiddiol. Fe’u cedwir yng nghasgliadau Cymdeithas William Morris )gweler yr erthygl gan Helen Elleson yn yr adran Darllen Pellach).

Gwelir cysylltiad cyn-raffaëlaidd arall uwchben yr allor yng Nghapel Dyfrig. Gwelir yno baneli’n dylunio chwe niwrnod y cread a gynlluniwyd gan yr artist o’r 19eg ganrif Burne-Jones ac a wnaed gan Harold Rathbone yng nghrochendy Della Robbia ym Mhenbedw, 1893-1906.