Switch to English en_GB

Cynhelir yr Ysgol Sul bob dydd Sul yn ystod y tymor ochr yn ochr â’r ‘Cymun Bendigaid’ am 9am a’r ‘Cymun Corawl’ am 11am. Gall y plant gyrraedd unrhyw bryd o 8.45am a 10.45am. Mae gweithgareddau’r Ysgol Sul yn cynnwys: Straeon y Beibl a thrafodaeth; gwaith celf a chrefft; canu; drama, a gweddïo wrth gwrs. Ein nod yw bod yr Ysgol Sul yn lle diogel a hapus lle gall plant ddysgu am y ffydd Gristnogol.

Mae tri dosbarth:

  • Dosbarth 3 ar gyfer plant o 3 oed hyd at blant Dosbarth Derbyn yn yr Ysgol Gynradd; mae’n cwrdd yn Nhŷ’r Prebend. Bydd Arweinwyr yr Ysgol Sul yn dod â’r plant hyn i Gapel Dewi tua 9.35am lle gall rhieni eu casglu mewn pryd ar gyfer y fendith yn ystod y cymun.
  • Dosbarth 2 ar gyfer Blynyddoedd 1 – 4 yn yr Ysgol Gynradd sydd hefyd yn cwrdd yn Nhŷ’r Prebend. Bydd Arweinwyr yr Ysgol Sul yn dod â’r plant hyn i’r Gadeirlan drwy brif Ddrws y Gorllewin tua 9.40am, lle bydd y plant yn symud i’r pen blaen ar gyfer eu bendith ac yn aros yno gyda’u harweinwyr nes bod y Gwasanaeth yn dod i ben pan all y rhieni eu casglu.
  • Dosbarth 1 ar gyfer Blynyddoedd 5 a 6 yn yr Ysgol Gynradd; fel arfer mae’r plant yn y dosbarth hwn yn eistedd yn rhesi blaen y Gadeirlan drwy gydol y ‘Gwasanaeth Pob Oed’ am 9.00am ac maen nhw’n cael eu hannog i wirfoddoli i ddarllen neu weithredu fel gweinyddion. Bydd arweinwyr yr Ysgol Sul yn eistedd gyda nhw a’u helpu i ddilyn y Gwasanaeth. Weithiau rydyn ni’n cynnig trefniant ar wahân ar gyfer y dosbarth hwn, er enghraifft pan fyddwn yn paratoi ar gyfer ein dramâu Gwener y Groglith neu’r Nadolig.

Os hoffech i’ch plentyn ymuno â’r Ysgol Sul, cwblhewch un o’r Ffurflenni Cofrestru isod.