Switch to English en_GB

Croeso i raglen addysgiadol Cadeirlan Llandaf. Ein nôd yw galluogi ysgolion i ddefnyddio adnoddau cyfoethog y Gadeirlan yn brofiad dysgu ac i annog plant i deimlo’n gartrefol yn eu Cadeirlan nhw. Yma, gall plant a phobl ifainc brofi rhyfeddod, myfyrio ar werthoedd, datblygu’u synnwyr o berthyn a’u hunaniaeth heb anghofio’u lle mewn hanes.

Mae’r teithiau’n cael eu harwain gan ein tîm o dywyswyr ac rydym yn cynnig ystod eang o bynciau fel y gwelir isod. Os ydych yn chwilio am rywbeth gwahanol, cysylltwch â ni. Byddwn yn hapus i’ch helpu.

Ceir pedair taith isod gyda dolenni cyswllt i’r cwricwlwm.

Fe’ch cynghorwn i wneud ymholiad am daith ymhell cyn dyddiad eich ymweliad fel y gallwn sichrau lle yn y dyddiadur.

  • Yn ystod y daith hon, rydym yn archwilio ystyr pob un o’r digwyddiadau bywyd, gan edrych ar y symbylau a ddefnyddir, gan berfformio’r digwyddiadau gyda’n gilydd, gan wrando ar ddarn o’r Ysgrythur sy’n perthyn i bob digwyddiad a gan fyfyrio ar eu perthnasedd i ddigwyddiadau bob dydd (ee rhannu bwyd, cadw addewidion, dechrau o’r newydd).
  • Gellir addasu’r daith ar gyfer plant o 7 oed i fyny.

Mae’r daith hon yn cysylltu’r elfennau canlynol o Gwricwlwm Cenedlaethol Cymru:

Y Dyniaethau: Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.

  • Cam Cynnydd 1: Rwy’n gallu, trwy chwarae, archwilio, darganfod a dechrau gofyn cwestiynau syml a chynnig atebion posibl yn seiliedig ar brofiadau blaenorol.
  • Cam Cynnydd 1: Rwyf wedi profi ystod o symbyliadau sydd wedi fy nghyffroi a’m hysbrydoli i ddychmygu a bod yn chwilfrydig am fy ardal leol, am Gymru yn ogystal ag am y byd.
  • Cam Cynnydd 2: Rwyf wedi profi ystod o symbyliadau ac wedi cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn ymholiadau, ar y cyd yn ogystal â chydag annibyniaeth cynyddol.

Cam Cynnydd 3: Rwyf wedi ymwneud yn weithredol gydag ystod o symbyliadau, ac wedi cael cyfle i gymryd rhan mewn ymchwiliadau, ar y cyd ac yn annibynnol.

Y Dyniaethau: Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth a chânt eu hamgyffred, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd.

  • Cam Cynnydd 2: Rwy’n dechrau cydnabod teimladau pobl eraill, a’u safbwyntiau am ddigwyddiadau neu brofiadau cyfarwydd.
  • Cam Cynnydd 3: Rwy’n gallu defnyddio tystiolaeth i esbonio sut mae agweddau o’r gorffennol wedi cael eu cynrychioli a’u dehongli mewn gwahanol ffyrdd.

Y Dyniaethau: Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl.

  • Cam Cynnydd 2: Rwy’n gallu archwilio fy hunaniaeth, a’i chymharu â rhai pobl eraill, gan gydnabod bod nifer o wahanol grwpiau, credoau a safbwyntiau o fewn cymdeithas.
  • Cam Cynnydd 3: Rwy’n gallu disgrifio ac esbonio pethau tebyg a gwahanol ym mywydau pobl, yn y gorffennol a’r presennol.

Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg: Taith Bywyd

Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg: Hunaniaeth a Pherthyn

Iechyd a Lles: Mae’r ffordd rydym yn ymwneud â dylanwadau cymdeithasol yn siapio pwy ydyn ni, ac yn effeithio ar ein hiechyd a’n lles.

  • Cam Cynnydd 2: Rwy’n gallu adnabod bod tebygrwydd a gwahaniaethau rhwng gwerthoedd ac agweddau pobl.
  • Cam Cynnydd 3: Mae gen i ddealltwriaeth o reolau, normau ac ymddygiad gwahanol grwpiau a sefyllfaoedd, ac rwy’n sylweddoli bod ganddyn nhw ddylanwad arnaf fi.
  • Trwy gyfrwng ein pum synnwyr, mae plant yn archwilio syniadau am ffydd, ysbrydolrwydd a sancteiddrwydd. Gan ddefnyddio pob synnwyr yn ei dro, rydyn ni’n darganfod beth sydd i’w gael yn yr Eglwys Gadeiriol. Rydyn ni’n gwneud gweithgaredd ymarferol ar gyfer pob un (ee cynnau cannwyll, canu cloch) ac rydyn ni’n clywed ac yn myfyrio ar stori gysylltiedig o’r Ysgrythur.
  • Gall y daith hon fod yn addas i blant o unrhyw oedran, gan gynnwys plant ag anghenion dysgu ychwanegol.

Mae’r daith hon yn cysylltu’r elfennau canlynol o Gwricwlwm Cenedlaethol Cymru:

Y Dyniaethau: Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.

  • Cam Cynnydd 1: Rwy’n gallu, trwy chwarae, archwilio, darganfod a dechrau gofyn cwestiynau syml a chynnig atebion posibl yn seiliedig ar brofiadau blaenorol.
  • Cam Cynnydd 1: Rwyf wedi profi ystod o symbyliadau sydd wedi fy nghyffroi a’m hysbrydoli i ddychmygu a bod yn chwilfrydig am fy ardal leol, am Gymru yn ogystal ag am y byd.
  • Cam Cynnydd 2: Rwyf wedi profi ystod o symbyliadau ac wedi cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn ymholiadau, ar y cyd yn ogystal â chydag annibyniaeth cynyddol.
  • Cam Cynnydd 3: Rwyf wedi ymwneud yn weithredol gydag ystod o symbyliadau, ac wedi cael cyfle i gymryd rhan mewn ymchwiliadau, ar y cyd ac yn annibynnol.

Y Dyniaethau: Mae ein byd naturiol yn amrywiol a deinamig, wedi’i ddylanwadu gan brosesau a gweithredoedd dynol.

  • Cam Cynnydd 1: Rwy’n gallu adnabod pam mae lleoedd yn bwysig i mi.
  • Cam Cynnydd 2: Rwy’n gallu disgrifio sut a ble mae rhai lleoedd ac amgylcheddau’n debyg i’w gilydd, ac eraill yn wahanol.

Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg: Hunaniaeth a Pherthyn

Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg: Chwilio am Ystyr a Phwrpas

Byddai’r daith hon hefyd yn cynorthwyo datblygiad ysbrydol plant, yn benodol eu dealltwriaeth o ‘Harddwch’ a’r ‘Tu Hwnt’, gan gysylltu â fframwaith Ysbrydolrwydd yr Eglwys yng Nghymru.

Mae pob pwnc yn cymryd 20-25 munud. Mae angen 15 munud hefyd ar gyfer sesiwn ragarweiniol a sesiwn gloi ar gyfer gweddi a myfyrio. Mae pob testun yn cael ei addasu i oedran priodol y myfyrwyr.

Testun 1 – Darganfod yr arteffactau a geir mewn Cadeirlan, dysgu eu henwau a sut y cânt eu defnyddio mewn addoliad.

Testun 2 – Darganfod bwyd, diod a dillad arbennig mewn addoliad

Testun 3 – Beth yw Sant? Pwy oedd Sant Teilo?

Pwnc 4 – Twf yr Eglwys Gadeiriol yn Llandaf OC 560- heddiw

Mae’r daith hon yn cysylltu’r elfennau canlynol o Gwricwlwm Cenedlaethol Cymru:

CGM: hunaniaeth a Pherthyn

Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg: Hunaniaeth a Pherthyn

CGM: Awdurdod a Dylanwadau

Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg: Awdurdod a dylanwad

Dyniaethau: Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.

  • Cam Cynnydd 1: Gallaf, trwy chwarae, archwilio, darganfod a dechrau gofyn cwestiynau syml a chynnig atebion posibl yn seiliedig ar brofiadau blaenorol.
  • Cam Cynnydd 2: Rwyf wedi profi ystod o ysgogiadau sydd wedi fy ysgogi a’m hysbrydoli i ddychmygu a bod yn chwilfrydig am fy ardal leol a Chymru, yn ogystal â’r byd ehangach.
  • Cam Cynnydd 2: Rwyf wedi profi ystod o ysgogiadau, ac wedi cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn ymholiadau, ar y cyd a chydag annibyniaeth gynyddol.
  • Cam Cynnydd 3: Rwyf wedi ymgysylltu’n frwd ag ystod o ysgogiadau, a chefais gyfleoedd i gymryd rhan mewn ymholiadau, ar y cyd ac yn annibynnol.

Y Dyniaethau: Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.

  • Cam Cynnydd 1: Rwy’n gallu, trwy chwarae, archwilio, darganfod a dechrau gofyn cwestiynau syml a chynnig atebion posibl yn seiliedig ar brofiadau blaenorol.
  • Cam Cynnydd 1: Rwyf wedi profi ystod o symbyliadau sydd wedi fy nghyffroi a’m hysbrydoli i ddychmygu a bod yn chwilfrydig am fy ardal leol, am Gymru yn ogystal ag am y byd.
  • Cam Cynnydd 2: Rwyf wedi profi ystod o symbyliadau ac wedi cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn ymholiadau, ar y cyd yn ogystal â chydag annibyniaeth cynyddol.
  • Cam Cynnydd 3: Rwyf wedi ymwneud yn weithredol gydag ystod o symbyliadau, ac wedi cael cyfle i gymryd rhan mewn ymchwiliadau, ar y cyd ac yn annibynnol.

Mae hwn yn ymweliad arbrofol â’r Gadeirlan pan fydd plant yn dysgu am bererindod i le sanctaidd, ac yn cael eu hannog i weld eu bywydau fel pererindod, taith ffydd.

Yn ystod yr ymweliad bydd plant yn gwisgo eitem syml o ddillad pererinion, yn casglu sticeri mewn ‘pasbort pererinion’ ym mhob man aros, ac yn myfyrio ar eu bywydau eu hunain fel taith. Mae’r adran olaf yn rhoi cyfle iddynt wneud gwaith celf creadigol ar y thema hon.

Mae’r ymweliad yn cymryd 2 awr ac yn gweithio orau gydag uchafswm maint grŵp o 30 o blant.

Ar gais, gellir darparu lle ar gyfer cinio cyn neu ar ôl yr ymweliad.

Anelir y profiad hwn at blant 7-11 oed.

Mae’r daith hon yn cysylltu’r elfennau canlynol o Gwricwlwm Cenedlaethol Cymru:

CGM: Taith Bywyd

Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg: Taith Bywyd

CGM: Hunaniaeth a Pherthyn

Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg: Hunaniaeth a Pherthyn

CGM: Chwilio am Ystyr a Phwrpas

Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg: Chwilio am Ystyr a Phwrpas

Y Dyniaethau: Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl.

  • Cam Cynnydd 2: Rwy’n gallu archwilio fy hunaniaeth, a’i chymharu â rhai pobl eraill, gan gydnabod bod nifer o wahanol grwpiau, credoau a safbwyntiau o fewn cymdeithas.
  • Cam Cynnydd 3: Rwy’n gallu disgrifio ac esbonio pethau tebyg a gwahanol ym mywydau pobl, yn y gorffennol a’r presennol.

Galeri

Ymweld â ni

Cadeirlan Llandaf, Y Swyddfa Weinyddol,
Tŷ’r Prebend,Llandaf, Caerdydd, CF5 2LA,

+44 2920 564 554

Oriau agor

Llun-Gwener: 8.00yb – 5.30yp
Sul: 8.00yb – 4.00yp

Related content