Gweithio gyda ni - Eglwys Gadeiriol Llandaf
Switch to English en_GB

YMDDIRIEDOLWR (GWIRFODDOL)

Mae Deon a Chabidwl Eglwys Gadeiriol Llandaf yn ceisio penodi un Ymddiriedolwr i ymuno a chorff llywodraethu’r Sefydliad Corfforedig Elusennol (SCE) sydd newydd ei gorffori, a ddaw i rym ar 1 Ionawr 2027. Mae’r rôl wirfoddol hon yn gyfle cyffrous i ymuno â thîm profiadol o glerigion a lleygwyr sy’n canolbwyntio ar ddehongli a datblygu bywyd y sefydliad Cristnogol eiconig hwn yng nghyd-destun prifddinas Cymru. Mae’n gofyn am brofiad, amser, tosturi a dychymyg, ond mae’n cynnig y cyfle i chwarae rhan arwyddocaol iawn yn llywodraethiant yr Eglwys Gadeiriol, yn ogystal â chyfleoedd i gymryd rhan ym mywyd seremonïol ac addoli Eglwys Gadeiriol Llandaf.

O 1 Ionawr 2027, bydd yr Eglwys Gadeiriol yn gweithredu drwy’r SCE newydd ei gorffori. Bydd echorff llywodraethu yn cynnwys pum uwch glerigwr llawn-amser a chwe aelod lleyg gwirfoddol. Isod nodir cyd-destun gwaith a llywodraethiant yr Eglwys Gadeiriol, a rôl a natur Hymddiriedolwyr lleyg.