Switch to English en_GB

Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi ymrwymo i feithrin amgylchedd lle gall pawb addoli a chymryd rhan ym mywyd yr eglwys yn ddiogel.

Mae diogelu yn gyfrifoldeb i bawb

Mae pawb sy’n gweithio i’r eglwys, gan gynnwys clerigwyr, gweithwyr, a gwirfoddolwyr, yn cael eu hystyried gan yr Eglwys yng Nghymru fel unigolion sy’n gweithio mewn swyddi o ymddiriedaeth o fewn yr Eglwys ac felly disgwylir iddynt gadw at y polisi diogelu a’r gweithdrefnau a’r canllawiau ymarfer cysylltiedig.

www.eglwysyngnghymru.org.uk/diogelu

Mabwysiadwyd y polisi hwn gan yr Ymddiriedolwyr ar 12 Medi 2024 a chaiff ei adolygu’n flynyddol.

Arwyddwyd: Ceri A Weatherall Rôl: Cadeirydd y Cabidwl, Cadeirlan Llandaf

Ar gyfer ymholiadau diogelu cyffredinol, cysylltwch â:

Katherine MacDonald, Swyddog Diogelu’r Gadeirlan

Ffôn: 02920 562488

I siarad â rhywun am bryder, honiad neu ddatgeliad diogelu, cysylltwch â:

Sharon Ahearn, Swyddog Diogelu Taleithiol

Rhif Cyswllt: 07301 041937

I adrodd am bryder, honiad neu ddatgeliad diogelu i Dîm Diogelu’r Dalaith, cliciwch yma.

Dylid hysbysu Tîm Diogelu Taleithiol yr Eglwys yng Nghymru ar unwaith am bob amheuaeth, pryder, gwybodaeth, datgeliad neu honiad o gamdriniaeth neu, mewn argyfwng, i’r awdurdodau statudol.

Os oes gennych chi wybodaeth am sefyllfa ddiogelu lle mae plentyn neu oedolyn mewn perygl dybryd neu angen sylw meddygol brys, ffoniwch y gwasanaethau brys ar 999 – PEIDIWCH AG OEDI.

Os credwch fod plentyn neu oedolyn mewn perygl o niwed ond nad yw mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch adran gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol.