Switch to English en_GB

Deon a Chabidwl Cadeirlan Llandaf

  1. Eich data personol – beth yw hwnnw?

Mae data personol yn perthyn i unigolyn byw y gellir ei adnabod o’r data. Gall adnabyddiaeth fod drwy’r wybodaeth yn unig neu law yn llaw ag unrhyw wybodaeth ym mediant y rheolwr data. Mae proses data personol yn dod o dan reolaeth y Rheoliadau Gwarchod Data Cyffredinol (GDPR).

  1. Pwy ydym ni?

Deon a Chabidwl Cadeirlan Llandaf yw’r rheolwyr data (gweler fanylion cyswllt isod). Golyga hyn ei fod yn penderfynu sut mae’ch data personol yn cael ei brosesi ac i ba bwrpas.

  1. Sut ydym yn prosesi data personol?

Mae Deon a Chabidwl Cadeirlan Llandaf yn cydymffurfio â’i oblygiadau o dan y “GDPR” drwy gadw data personol yn gyfredol; drwy storio a dinistrio data’n ddiogel; drwy beidio a chasglu na chadw gormod o ddata; drwy warchod data personol rhag colled, cam ddefnydd, mynediad a datguddiad heb ganiatâd a thrwy sichrau mesurau technegol priodol er mwyn gwarchod data.

Rydym yn defnyddio’ch data personol i’r perwyl canlynol: –

  • Darparu gofal bugeiliol i bwyfolion a chyflawni’n dyletswyddau statudol yn ymwneud â Gwasanaethau Arbennig;
  • Ein galluogi i ddarparu gwasanaeth gwirfoddol er budd y cyhoedd mewn ardal ddaearyddol benodol fel amlinellir yn ein cyfansoddiad;
  • Gweinyddu cofnodion aelodaeth;
  • Codi arian a hyrwyddo buddiannau’r elusen;
  • Rheoli’n gweithwyr a’n gwirfoddolwyr;
  • Cadw cofnodion a chyfrifon (gan gynnwys prosesu ceisiadau Rhodd Gymorth);
  • Gweithredu gwefan Cadeirlan Llandaf a darparu gwasanaethau yn ôl cais unigolion;
  • Darparu gwybodaeth am newyddion, digwyddiadau, gweithgareddau a gwasanaethau yn y Gadeirlan.
  1. Beth yw’r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu’ch data personol?
  • Caniatâd eglur gan destun y data fel ein bod yn medru’ch cadw’n hysbys o newyddion, digwyddiadau, gweithgareddau a gwasanaethau a phrosesu’ch Rhodd Gymorth a’ch hysbysu am ddigwyddiadau esgobaethol.
  • Mae prosesu’n angenrheidiol er mwyn diwallu oblygiadau o dan ddeddfau cyflogaeth, diogelwch cymdeithasol neu gytundeb;
  • Mae prosesu’n cael ei weithredu gan gorff nid-er-elw gyda nod gwleidyddol, athronyddol, crefyddol neu undeb llafur, cyhŷd â bo:–
    • Prosesu’n ymwneud ag aelodau neu gyn-aelodau yn unig (neu rhai sydd mewn cysylltiad cyson i’r perwyl hwnnw(; a
    • Does dim datgelu i drydydd parti heb ganiatâd.
  1. Rhannu’ch data personol
    Mae’ch data personol yn cael ei drin yn gwbl gyfrinachol ac mi fydd ond yn cael ei rannu gydag aelodau eraill yr eglwys er mwyn hwyluso gwasanaeth i aelodau eraill yr eglwys neu i bwrpas yn ymwneud â’r eglwys. Ni fyddwn yn rhannu’ch data y tu hwnt i’r plwyf heb eich caniatâd.
  2. Am ba hyd y cedwir eich data personol [1]?
    Rydym yn cadw data yn unol â’r cyngor sydd i’w ganfod yn y ddogfen “Keep or Bin: Care of Your Parish Records” sydd ar gael o wefan yr Eglwys yng Nghymru [gweler y ddolen isod].
  1. Eich hawliau

Os nad oes eithriad dan y rheoliadau GDPR, rydych yn meddu ar yr hawliau canlynol sy’n ymwneud â’ch hawliau: –

  • Yr hawl i ofyn am gopi o’r data personol sy’n perthyn i chi ac sy’n cael ei gadw gan Ddeon a Chabidwl Cadeirlan Llandaf;
  • Yr hawl i fynnu bod Deon a Chabidwl Cadeirlan Llandaf yn cywiro unrhyw ddata personol sydd yn anghywir neu’n hen;
  • Yr hawl i wrthod caniatâd ar gyfer prosesi ar unrhyw adeg
  • Yr hawl i ofyn i’r rheolwr data i drosglwyddo’r data sydd yn cael eu gad war gyfer gwrthrych y data i reolwr data arall (yr hawl i hygludedd data);
  • Yr hawl, mewn achos o anghywirdeb data, i ofyn bod rhwystr yn cael ei roi ar brosesi pellach;
  • Yr hawl i wrthwynebu prosesi data personol;
  • Yr hawl i gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
  1. Prosesi pellach

Os byddwn yn dymuno defnyddio’ch data i bwrpas nad sydd yn cael ei gynnwys yn yr hysbysiad hwn, byddwn yn darparu hysbysiad newydd cyn dechrau’r prosesi gan esbonio’r pwrpas perthnasol. Lle bo angen, byddwn yn sicrhau ein bod wedi derbyn eich caniatâd ar gyfer y prosesi newydd.

  1. Manylion Cyswllt

Er mwyn cael mynediad at bob hawl, gwneud ymholiad neu gwyno, yn y lle cyntaf, cysyllter â Deon a Chabidwl Cadeirlan Llandaf admin@llandaffcathedral.org.uk neu Y Swyddfa, Cadeirlan Llandaf, Caerdydd, CF5 2LA

Gellir cysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar 0303 123 1113 neu drwy ebost https://ico.org.uk/global/contact-us/email/ neu drwy’r post: The Information Commissioner’s Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire. SK9 5AF.

Mae llawer o’r wybodaeth yn y ddogfen hon wedi’i ddarparu gan Gyngor Archesgob Eglwys Loegr ac yn cael ei ddefnyddio gyda’i ganiatâd gan yr Eglwys yng Nghymru.

[1] Gellir dod o hyd i fanylion am gyfnodau cadw data drwy ymweld â gwefan yr Eglwys yng Nghymru: – www.churchinwales.org.uk