Switch to English en_GB

Mae deddfau priodi yn llymach ar gyfer Eglwysi Cadeiriol nag Eglwysi Plwyf, serch hynny rydyn ni’n croesawu ymholiadau gan unrhyw un a hoffai briodi yn Eglwys Gadeiriol Llandaf.

Yn gyffredinol, byddai angen i chi neu eich dyweddi fyw o fewn ffiniau Plwyf Llandaf (sy’n ardal gymharol fach) neu byddai angen i un ohonoch chi fod ar y Gofrestr Etholiadol neu’n addolwr cyson.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cynnal eich priodas yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, llenwch ffurflen yn y ddolen isod a bydd un o’r clerigwyr yn cysylltu â chi.