Switch to English en_GB

Mae gwasanaethu mewn angladdau yn rhan bwysig o weinidogaeth ein tîm o glerigwyr ac rydyn ni’n cynnal nifer o angladdau drwy gydol y flwyddyn. Os hoffech gynnal angladd neu Wasanaeth Coffa i anwyliaid yn y Gadeirlan, rhowch wybod i’ch ymgymerwr a fydd yn trefnu hyn yn uniongyrchol gyda ni.

Prin yw’r lle ar dir y Gadeirlan i gladdu llwch. Os ydych chi’n dymuno gofyn am gladdu llwch perthynas, cwblhewch y ffurflen yn y ddolen isod.