Switch to English en_GB

Beth yw bedyddio neu fedydd?

Bedyddio, neu Fedydd yw’r foment o fynediad i’r Eglwys Gristnogol. Mae pob person sy’n cael ei fedyddio yn y Gadeirlan yn perthyn i’r Eglwys yng Nghymru. Mae’n ymrwymiad oes, y cam cyntaf ar daith ffydd. Mae Rhieni a Rhieni Bedydd yn cymryd addunedau difrifol i fagu’r plentyn yn Gristion a’i arwain trwy eu hesiampl eu hunain i fywyd ffydd. Mae’n hanfodol felly i rieni a rhieni bedydd ymgymryd â’r ymrwymiad hwn yn ystyriol ac o ddifri.

Pa oedran y gall person gael ei fedyddio?

Gellir bedyddio person o unrhyw oedran. Mae’n arferol yn yr Eglwys yng Nghymru i fabis a phlant gael eu bedyddio; mae oedolion neu bobl ifanc yn eu harddegau sy’n dod ymlaen i gael eu bedyddio fel arfer yn cael eu hannog i dderbyn Conffyrmasiwn hefyd. Yn y Conffyrmasiwn, maen nhw’n cadarnhau’r un addewidion ag a wnaed ar eu rhan yn y Bedydd, gan eu bod bellach yn ddigon hen i gymryd cyfrifoldeb personol am eu ffydd.

A all fy mhlentyn gael ei fedyddio yn y Gadeirlan?

Mae bedydd fel arfer yn digwydd o fewn eglwys y plwyf sy’n lleol i’r teulu. Os ydych yn byw o fewn plwyf Llandaf a/neu’n dod i wasanaethau’r Gadeirlan yn rheolaidd, gall eich plentyn gael ei fedyddio yma. Os nad ydych yn byw yn y plwyf nac yn mynychu’r Gadeirlan, ond bod gennych reswm cryf arall dros eisiau cynnal y bedydd yma, gofynnwn i chi ofyn i’ch Ficer lleol fel eu bod ymwybodol o’ch cais.

Sut rydw i’n trefnu Bedydd ar gyfer fy mhlentyn?

Cliciwch yma i gwblhau Ffurflen Ymholi am Fedydd. Ar ôl dychwelyd y ffurflen, cewch eich gwahodd i fynychu cyfarfod Paratoi’r Bedydd gyda theuluoedd eraill. Ar ôl y cyfarfod, byddwch yn gallu anfon manylion eich rhieni bedydd, ac i ofyn am ddyddiad ar gyfer eich gwasanaeth.

Pryd caiff bedydd ei gynnal?

Mae’r gwasanaeth am 1.30pm ar ddydd Sul; fel arfer naill ai ar yr ail neu’r pedwerydd Sul yn y mis. Mae’n para tua 30 munud. Cytunir ar ddyddiad Bedydd eich plentyn gyda chi ar ôl mynychu’r cyfarfod paratoi.

Pwy all fod yn Rieni Bedydd a sut dylem eu dewis?

Rhaid i rieni bedydd fod dros 16 oed a rhaid eu bod nhw eu hunain wedi cael eu bedyddio. Mae’n draddodiad cael tri rhiant bedydd, dau o’r un rhyw â’r plentyn; serch hynny, mae’n bwysicach dewis rhieni bedydd sy’n ddidwyll yn eu ffydd a’u bwriad i helpu rhieni i fagu’r plentyn yn y ffydd Gristnogol.

Sut gallaf baratoi fy mhlentyn ar gyfer y Bedydd?

I blentyn bach neu blentyn ifanc, llyfr addas i ddarllen gyda nhw ymlaen llaw fyddai  ‘My Baptism Book; a Child’s Guide to Baptism’ gan Diana Murrie. Mae’n rhoi esboniad syml a deniadol o’r hyn sy’n digwydd yn y bedydd a beth mae’n ei olygu.