Cathedral Music Trust i ariannu prosiect cyffrous - Eglwys Gadeiriol Llandaf
Switch to English en_GB

Mae Eglwys Gadeiriol Llandaf yn falch iawn o gyhoeddi ei bod wedi derbyn grant o £22,350 gan Cathedral Music Trust (CMT). Bydd y grant hwn yn cefnogi ac yn ehangu’r ddarpariaeth o hyfforddiant canu a theori cerddoriaeth i’r cantorion ifanc, ac yn sefydlu rhaglen o hyfforddiant canu ar gyfer aelodau rhes gefn côr yr Eglwys Gadeiriol.

Rydym yn un o 27 o eglwysi cadeiriol ac eglwysi ledled y DU sy’n derbyn cefnogaeth drwy raglen gymorth ariannol CMT eleni, sy’n cynrychioli buddsoddiad anhygoel o dros £438,000. Rydym yn hynod ddiolchgar i CMT a’i gefnogwyr am eu cefnogaeth arbennig i gerddoriaeth eglwysi cadeiriol ledled y DU ac Iwerddon.

“Mae’r grant hwn yn ein galluogi i ddarparu cymorth lleisiol hanfodol i holl aelodau côr ein Heglwys Gadeiriol,” meddai Stephen Moore, Cyfarwyddwr Cerdd Eglwys Gadeiriol Llandaf. “Byddwn yn gallu cefnogi ein cantorion sy’n oedolion yn ogystal â’n cantorion ifanc, gan sicrhau eu bod yn cael mynediad at hyfforddiant arbenigol a rhoi iddynt yr adnoddau, y gofal a’r hyder a fydd yn helpu i feithrin eu lleisiau a’u cadw’n iach ac yn wydn am flynyddoedd i ddod. Yn hollbwysig, bydd hyn yn rhoi mwy o gryfder a dyfnder i dîm côr ein Heglwys Gadeiriol, gan helpu i gefnogi pob unigolyn wrth inni gydweithio tuag at ein nod cyffredin.”