Switch to English en_GB

Mae gan y Gaderilan gasgliad clodwiw o gofebau delwol. Mae amryw ohonynt wedi bod yn destun astudiaeth a chrynodeb yn unig a geir yma. Am ragor o wybodaeth,, gweler yr adran Darllen Pellach isod o dan Rh. Biebrach ac M. Gray.

Mae’r ddelw sydd mewn cilfach yn yr Eil Ddeheuol yn cael ei dddehongli’n dradodiadol fel darluniad o’r Esgob Henri o’r Fenni (m. 1218). Er nad yw’r cynllun sydd i’w weld yn astudiaeth Browne Willis o’r Gadeirlan a gyhoeddwyd ym 1719 yn gwbl gywir, efallai mai dyma’r ddelw o ‘Gofeb o Esgob wedi’i ddifwyno’. Os felly, fe’i symudwyd i’w safle bresennol yn ddiweddarach, gan fod cynllun 1719 yn ei leoli i’r dwyrain o Dŷ’r Cabidwl.

Ymhellach ar hyd yr eil ddwyreiniol ac o dan risiau’r organ, gwelir maen lled-ddelwol wedi erydu o Philip Taverner a’i wraig. Mae’r ysgrifiad wedi’i gofnodi mewn llawysgrif yn Llyfrgell Bodleian, Rhydychen.

Ar yr ochr ddeheuol, mewn cilfach yng Nghapel Teilo, gwelir delw alabastr honedig o’r Foneddiges Christian Audley (m.1409).

Mae tri delw esgobaethol o’r 13eg ganrif, ond yn fwy diweddar na rhai Henry, yn cynrychioli’r Saint Dyfrig, Teilo ac Euddogwy. Nid yw safle gwreiddiol y ffigyrau’n sicr a cheir sôn, efallai eu bod wedi’u gosod are u traed mewn cilfachau ar y talcen gorllewinol. Mae delwau Euddogwy i’w gweld I’r gogledd o’r corff, gyda Theilo’n gorwedd ar safle’i feddrod yn y cysegr, yn Dilyn adnewyddiad yn oes Fictoria. I’r chwith o ben yr Esgob, gwelir delwau’r Forwyn a’r Baban wedi’u difrodi. Islaw’r ddelw, gwelir golygfeydd o fywyd Teilo a grëwyd gan Frank Roper ym 1973.

Mae’r trydydd Esgob, Dyfrig, wedi’’i leoli gyferbyn â’r fynedfa i’r Capel sy’n dwyn ei new, ond a adnabyddwyd yn wreiddiol fel Capel Mathew. Mae’r ‘beddrod’ yn gymysgedd o ddwy gofeb sy’n dyddio o’r 13eg i’r 15ed ganrif. Ar gynllun Browne Willis, dsigrifir y gofeb fel ‘Cofebau honedig yr Esgob Bromfield’. Bu farw Edward Bromfield ym 1393 ac fe’i gysegrwyd yn Esgob Llandaf ym mis Ionawr 1390.  

Mae dwy nodwedd arbennig yn perthyn i’r beddrod. O dan y bwa, mae esiampl o Ddelwedd Tosturi, darluniad o Grist yn godi o’i arch, gyda chlwyfau wedi’u paentio’n wreiddiol. Yng nghefn y gilfach gwelir tarian sy’n arddangos arfau’r dioddefaint, er enghraifft yr ordd a’r hoelion o’r croeshoelio.

Ceir tri chofeb nodedig arall yng Nghapel Dyfrig. Yn y mur gogleddol, mae cerfiad o gorff pwy bynnag a gladdwyd yno. Dim ond tri chofeb tebyg sydd i’w gweld yng Nghymru. Mae cofebau tebyg yn dyddio o’r 15ed i’r 16eg ganrif ac i atgoffa pobl i baratoi ar gyfer eu marwolaeth.

O’r tri delw o aelodau’r Teulu Mathew o Landaf a Radyr, mae dau yn gorwedd yng Nghapel Dyfrig. David Mathew yw’r ffigwr ar ei ben ei hun. Mae tipyn o fytholeg yn gysylltiedig â David Mathew, megis achub bywyd Brenin Edward IV ym mrwydr Towton ym 1461. Erbyn y 1450au, roedd wedi cyrraedd canol oed, ac felly’n anhebygol o fod wedi ymladd yn y frwydr. Mae’n anhebygol hefyd y cafodd ei urddo’n farchog. Lleoliad gwreiddiol y ddelw oedd yng nghornel gogledd-orllewinol y capel. Gweler https://www.walesonline.co.uk/lifestyle/nostalgia/welsh-history-month-tomb-david-3406443

Mae beddrod ŵyr David, Christopher Mathew Ysw (m ar ôl 1531), ynghŷd â’i wraig, Elizabeth, i’w weld yn y gilfach rhwng Capel Mair a Chapel Dyfrig. Mae ychydig o’r gwaith paent wedi goroesi – buasai’r rhelyw o’r ffigyrau yma wedi’u paentio’n wreiddiol. Mae gŵr gweddigar wrthi’n gweddïo, er yn cysgu, i’w weld o dan droed un o’r delwau.

Mae’r ddelw arall yng Nghapel Dyfrig yn cynrychioli John Marshall, Esgob Llandaf (1478-96) yn y man nodwyd yn ei ewyllys. Mae’n ddadleuol os yw’r gist sy’n dal y ddelw yn wreiddiol ai peidio ac mae ategiad at y beddrod ar un pen yn esiampl arall o arfau’r dioddefaint.

Yng nghornel gogledd-ddwyreiniol Capel Mair, gwelir delw Gwilym Brewys, Esgob Llandaf (1266-87) ac adeiladwr y capel. Mae’n dwyn yr ysgrifiad WILLELMUS DE BREWSA EP’S LA’D. Mae cynllun 1719 yn dangos y ddelw yn yr union man lle’i gwelir heddiw, er fod yr Esgob wedi colli’i draed yn y cyfamser.

Mae trydydd beddrod sy’n perthyn i deulu Mathew, Syr William (m. 1528) a’r Fonesig Jenet, i’w weld ger y pulpud yn y corff. Dyma’r lleliad gwreiddiol, yn ôl cynllun 1719, er ei fod wedi’i amgylchynu â rheiliau yn y cyfnod hwnnw. Ar ryw adeg, fe’i symudwyd i sefyll ar ei draed yn Nhŷ’r Cabidwl . Urddwyd William gan Harri’r Wythfed am ei gyfraniad i ymgyrch Harri yn Ffrainc ym 1513.

Am ragor o wybodaeth, gwasgwch y botwm isod.