Switch to English en_GB

Y Deon – Y Parchedicaf Jason Bray

Daw Jason yn wreiddiol o Ferthyr Tudful, ac mae wedi gwasanaethu ei holl weinidogaeth ordeiniedig yn yr Eglwys yng Nghymru ers ei ordeinio gan yr Esgob Rowan Williams yn 1997. Heblaw am yn ystod ei gyfnod yn y brifysgol a hyfforddiant ar gyfer y weinidogaeth mae wedi byw yng Nghymru erioed, ac mae’n yn meddu ar Gymraeg litwrgaidd a sgyrsiol sylfaenol.

Gyda doethuriaeth mewn Diwinyddiaeth a diddordeb angerddol mewn ysgolheictod Beiblaidd, cyfundrefneg a hanes y canol oesoedd a’r diwygiad, mae Jason yn awdur cyhoeddedig ac yn athro medrus y ffydd yn ogystal â bod yn offeiriad doeth a bugeiliol ac yn arweinydd eglwysig profiadol. Mae cyhoeddi ei lyfr Gwaredigaeth: ymchwiliadau beunyddiol i’r goruwchnaturiol am ei fywyd a’i brofiadau fel gweinidog gwaredigaeth Anglicanaidd wedi golygu ei fod yn adnabyddus mewn rhai cylchoedd y tu allan i’r Eglwys yng Nghymru.

Cyn hynny roedd Jason yn Ficer San Silyn Wrecsam, sy’n rhan o’r Rhwydwaith Eglwysi Mawr ac yn eglwys blwyf ganoloesol fwyaf Cymru, lle y cryfhaodd a thyfodd y weinidogaeth yn San Silyn’. Mae’n feddyliwr strategol cryf gyda gogwydd at y dyfodol a chalon fugeiliol ac ewcharistaidd.

Y Canon Bencantor  – Y Parchedig Canon Ian Yemm

Yn dilyn astudiaethau gradd mewn cerddoriaeth a Diwinyddiaeth, bu i Ian Yemm hyfforddi yn y Coleg Cerdd Brenhinol a’r Academi Gerdd Frenhinol cyn mwynhau gyrfa lwyddiannus fel cerddor proffesiynol a thiwtor llais. Am bron i ddegawd, bu’n Gaplan Cydlynu ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr, yn Is-Gadeirydd Bwrdd Addysg Esgobaethol Bryste ac yn aelod etholedig o Synod Cyffredinol Eglwys Loegr. Ar ôl cael ei ordeinio yng Ngholeg Sant Padarn, bu’n giwrat yn y Bontfaen a dilyn ei alwad gyntaf yn Radyr. Mae Ian yn Ymgynghorydd Galwedigaethol ac mae ganddo Radd meistri mewn Ysbrydolrwydd Cristnogol.

Yn ddiweddar, etholwyd Ian i Gorff llywodraethol yr Egwlys yng Nghymru ac fe’I urddwyd yn Ganon Bencantor yng Nghadeirlan Llandaf, lle mae ganddo gyfrifoldeb dros Addoliad, yr Adran Gerdd a Chôr y Gadeirlan. Mae’n briod â Bernhard, sydd wedi gweithio fel meddyg yn y Gwasanaeth Iechyd Gyhoeddus ers dros ugain mlynedd.

Y Parchedig Canon Alison Dummer

Magwyd Alison fel aelod o’r Exclusive Plymouth Brethren ym Merthyr Tudful. Ar ôl dod yn Fedyddiwr, astudiodd ym Mhrifysgol Caerdydd gan ennill BD a Diploma mewn Astudiaethau Bugeiliol. Ynghyd â’i gŵr, y Parchedig Ddr Marc Dummer, symudodd i’r Eglwys Ddiwygiedig Unedig ym 1990 pan gafodd ei hordeinio’n Weinidog y Gair a’r Sacrament. Yna gwasanaethodd fel Gweinidog yng Ngrŵp De Sheffield o Eglwysi Ddiwygiedig Unedig tan 1996 pan symudodd i weinidogaeth ar y cyd yn y Rhath, Caerdydd, gan wasanaethu am 20 mlynedd.

Mae hi’n aelod o Fynachlog Tymawr ac wedi ymweld ac aros yno’n rheolaidd ers 1977. Felly mae ei symud i’r Eglwys yng Nghymru wedi ymddangos yn drawsnewidiad naturiol. Cafodd ei hordeinio’n Offeiriad yn 2024 ac mae bellach yn gwasanaethu fel Curad yn yr Eglwys Gadeiriol – rhan-amser, di-gyflog – yr hyn y mae hi’n ei ystyried yn fraint ac yn bleser.