{"id":841,"date":"2023-02-09T11:45:33","date_gmt":"2023-02-09T11:45:33","guid":{"rendered":"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/cy\/?page_id=841"},"modified":"2024-02-08T11:30:29","modified_gmt":"2024-02-08T11:30:29","slug":"music-department-staff","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/cy\/music\/music-department-staff\/","title":{"rendered":"Staff yr Adran Gerdd"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-9d6595d7 wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:66.66%\">\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Stephen Moore, Cyfarwyddwr Cerdd<\/h2>\n\n\n\n<p>Stephen Moore yw Cyfarwyddwr Cerdd Eglwys Gadeiriol Llandaf lle mae\u2019n goruchwylio holl ddarpariaeth gerddorol adran brysur sy&#8217;n canu mewn saith gwasanaeth yr wythnos. Yn Llandaf, mae\u2019n cyfarwyddo Corau\u2019r Gadeirlan yn y rownd wythnosol o wasanaethau corawl, cyngherddau, darllediadau a theithiau. O dan ei gyfarwyddyd, mae&#8217;r c\u00f4r wedi ymddangos yn gyson mewn darllediadau byw ar deledu a radio, yn fwyaf nodedig y gwasanaeth ym mhresenoldeb Ei Fawrhydi Brenin Charles III a\u2019r Frenhines Gydweddog ym mis Medi 2022 a ddarlledwyd ar draws y byd. Mae Stephen hefyd wedi ymddangos ar deledu fel arweinydd neu organydd, yn fwyaf diweddar ar <em>Songs of Praise\u00a0<\/em>ar Sul y Pasg 2021 a Dydd Nadolig 2022.<\/p>\n\n\n\n<p>Cyn symud i Gaerdydd yn 2016, treuliodd Stephen chwe blynedd fel Cyfarwyddwr Cerdd yn Eglwys St Matthew\u2019s, Northampton lle parhaodd \u00e2 thraddodiad enwog yr eglwys o gomisiynu cerddoriaeth newydd a ddechreuodd gyda <em>Rejoice in the Lamb&nbsp;<\/em>gan Britten dros 75 mlynedd yn \u00f4l. O dan ei gyfarwyddyd, perfformiodd c\u00f4r<br>St Matthew\u2019s <em>premieres<\/em> o weithiau newydd gan Paul Mealor, David Halls a Philip Stopford. Yn y gorffennol, cafodd Stephen ei benodi i rolau mewn amrywiol lefydd, gan gynnwys Eglwys Gadeiriol Caersallog a Chadeirlan Southwell, Ysbyty Brenhinol Chelsea a\u2019r Hen Goleg Morol Brenhinol yn Greenwich.<\/p>\n\n\n\n<p>Cwblhaodd Stephen ei astudiaethau israddedig yng Ngholeg Cerdd y Drindod, gan astudio\u2019r organ gan fwyaf, a graddio yn 2008 gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn perfformio. Enillodd fedal y coleg am y marc uchaf yn ei flwyddyn mewn astudiaethau allweddellau yn ogystal \u00e2\u2019r wobr am arwain. Tra yng Ngholeg y Drindod, astudiodd gydag William Whitehead a Colm Carey ac enillodd Wobr Organ Cardnell ddwywaith am berfformiad arbennig. Mae&#8217;n Gymrawd gwobredig Coleg Brenhinol yr Organyddion ac yn Gymrawd Coleg y Drindod Llundain.<\/p>\n\n\n\n<p>Fel unawdydd mae wedi cyflwyno datganiadau mewn nifer o leoliadau ledled y wlad. Mae lleoliadau diweddar a rhai sydd ar y gweill yn cynnwys Neuadd Brangwyn, Abertawe, Abaty Westminster, Eglwys Gadeiriol St Paul\u2019s, Priordy Malvern, Amgueddfa Caerdydd, Coleg Sant Ioan Caergrawnt a Chadeirlan Minster, yr Almaen yn ogystal \u00e2 pherfformiadau litwrgaidd yn Llandaf <em>La Nativit\u00e9 du Seigneur<\/em> gan Messiaen<em>,<\/em>\u00a0<em>14 Stations of the Cross\u00a0gan <\/em>Hosking\u00a0a\u2019r perfformiad cyntaf yng Nghymru o <em>Via Crucis<\/em> gan Philip Moore. Yn 2018, rhyddhaodd Stephen ei CD cyntaf gyda Priory Records a gafodd ei recordio ar Organ Eglwys Gadeiriol Llandaf. Gellir ei glywed ar nifer o recordiadau CD eraill fel unawdydd neu gyfeilydd ac mae wedi darlledu&#8217;n rheolaidd ar radio a theledu.<\/p>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:33.33%\">\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"762\" height=\"918\" src=\"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/cy\/app\/uploads\/2023\/02\/Stephen-Moore-2.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-842\" srcset=\"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/app\/uploads\/sites\/2\/2023\/02\/Stephen-Moore-2.jpg 762w, https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/app\/uploads\/sites\/2\/2023\/02\/Stephen-Moore-2-249x300.jpg 249w\" sizes=\"auto, (max-width: 762px) 100vw, 762px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Stephen Moore<\/figcaption><\/figure>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-columns row-reverse-mobile is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-9d6595d7 wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:33.33%\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"768\" height=\"1024\" src=\"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/cy\/app\/uploads\/2023\/04\/Aaron-Shilson-Photo-768x1024.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-1360\" srcset=\"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/app\/uploads\/sites\/2\/2023\/04\/Aaron-Shilson-Photo-768x1024.jpg 768w, https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/app\/uploads\/sites\/2\/2023\/04\/Aaron-Shilson-Photo-225x300.jpg 225w, https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/app\/uploads\/sites\/2\/2023\/04\/Aaron-Shilson-Photo.jpg 1125w\" sizes=\"auto, (max-width: 768px) 100vw, 768px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Aaron Shilson<\/figcaption><\/figure>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:66.66%\">\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Aaron Shilson, Dirprwy Gyfarwyddwr Cerdd<\/h2>\n\n\n\n<p>Aaron Shilson yw Dirprwy Gyfarwyddwr Cerdd Eglwys Gadeiriol Llandaf ers Medi 2021, lle mae ei ddyletswyddau&#8217;n cynnwys cyfeilio i gorau\u2019r Gadeirlan yn eu hamserlen brysur o wasanaethau, recordiadau a darllediadau, yn fwyaf diweddar ar\u00a0 Songs of Praise ar y BBC ar Ddydd Nadolig, yn ogystal \u00e2 darllediad byd-eang o ymweliad Ei Fawrhydi Brenin Charles III \u00e2 Llandaf ym mis Medi 2022. Mae ei ddyletswyddau hefyd yn ymestyn i helpu yng ngweinyddiaeth a chyfeiriad rhannau eraill o\u2019r adran gerdd.<\/p>\n\n\n\n<p>Cyn symud i Landaf, cafodd Aaron\u00a0swyddi yn Eglwys Gadeiriol Gatholig St Anne\u2019s yn Leeds, Eglwys Gadeiriol Manceinion, Eglwys Gadeiriol Tyddewi,\u00a0ac yn fwyaf diweddar, yn Eglwys Gadeiriol Ely fel Organydd Cynorthwyol i\u2019r C\u00f4r Merched, lle bu\u2019n cyfeilio ar gyfer gwasanaethau, teithiau, recordiadau a darllediadau byw o dan gyfarwyddyd Sarah MacDonald. O 2018 tan 2019 cymerodd hefyd r\u00f4l Organydd Cynorthwyol yng Ngholeg Selwyn, Caergrawnt, gan gyfeilio i\u2019w recordiad o weithiau gan Ben Parry ac ymuno \u00e2\u2019r c\u00f4r ar eu taith o ogledd ddwyrain America, a oedd yn cynnwys gwasanaethau yn Eglwys St Thomas ar Fifth Avenue, Efrog Newydd, Eglwys Gadeiriol Sant Ioan y Difinydd a\u2019r Eglwys Gadeiriol Genedlaethol yn \u00a0Washington.\u00a0 \u00a0<\/p>\n\n\n\n<p>Gwnaeth Aaron astudiaethau israddedig yng Ngholeg Cerdd Leeds (bellach yn \u00a0Conservatoire)\u00a0gyda Benjamin Saunders a Daniel Justin. Yn ystod ei gyfnod yn y coleg, bu\u2019n gyfeilydd ac yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol Corws y Coleg. Ar \u00f4l graddio, symudodd i Fanceinion i barhau \u00e2\u2019i astudiaethau yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd gyda Darius Battiwalla, Christopher Stokes a Gordon Stewart. Yn ystod ei gyfnod yno, bu yn rownd derfynol y gystadleuaeth Organ flynyddol ddwywaith a derbyniodd wobrau Frederick Lunt a Meadowcroft ar yr Organ, a chymerodd ran mewn dosbarthiadau meistr gyda Kevin Bowyer a Thomas Trotter. Mae\u2019n Gymrawd Coleg Brenhinol yr Organyddion.\u00a0<\/p>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-9d6595d7 wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:66.66%\">\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Rachel Kilby, Animateur Cerdd<\/h2>\n\n\n\n<p>Rachel Kilby yw Animateur Cerdd y Gadeirlan. Mae&#8217;r r\u00f4l newydd hon yn ymwneud ag ymgysylltu \u00e2 phlant ar draws yr esgobaeth drwy brosiectau cerddorol yn yr ysgol a Majestas Kids, gr\u0175p cerdd sy\u2019n agored i bob plentyn 7-11 oed, ar foreau Sadwrn yn ystod y tymor yn y Gadeirlan o 10-11a.m.<\/p>\n\n\n\n<p>\u00a0Yn addysgwr profiadol, mae Rachel wedi dysgu cerddoriaeth ers dros 30 mlynedd, mewn ysgolion yn Birmingham a Llundain. Yn Llundain, bu\u2019n Bennaeth y Celfyddydau Perfformio mewn ysgol uwchradd fawr ac yna\u2019n Bennaeth Gwasanaethau Cerdd yn Rhondda Cynon Taf, swydd y bu ynddi am ddeng mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, cyflwynodd Rachel nifer o brosiectau creadigol ar raddfa fawr ar gyfer plant, pobl ifanc a\u2019r gymuned ehangach. Mae hi hefyd yn feirniad profiadol mewn cystadlaethau lleol ac eisteddfodau, gan gynnwys G\u0175yl Gerdd Ysgolion Hong Kong yn 2016 a 2023.<\/p>\n\n\n\n<p>Graddiodd Rachel gyda B.Mus. Anrh. o Brifysgol Sheffield, cyn cael Tystysgrif<br>\u00d4l-raddedig mewn Addysg o Brifysgol Bath Spa. Yn ddiweddarach, cwblhaodd M.A mewn addysg cerddoriaeth yng Ngholeg Prifysgol Llundain, yr Institiwt Addysg yn ogystal ag astudiaethau perfformio \u00f4l-raddedig ar yr obo gydag Irene Pragnell yn Ysgol Cerdd a Drama y Guildhall.<\/p>\n\n\n\n<p>Cynrychiolodd Cymru ar y Cyngor Addysg Cerddoriaeth a Music Mark, yn ogystal \u00e2 chyfrannu at ymgynghoriadau ar addysg cerddoriaeth i Lywodraeth Cymru. Ers\u00a0 2014, mae Rachel wedi gweithio ar ei liwt ei hun, gan ddarlithio yn yr adran jazz yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, dysgu\u2019r obo a\u2019r piano, arholi\u2019n rhyngwladol ar gyfer Coleg y Drindod Llundain a gweithio mewn swyddogaeth ymgynghorol ar addysg cerddoriaeth yng Nghymru hefyd ar gyfer Coleg y Drindod Llundain. Rachel yw Cyfarwyddwr Cerdd The City Sirens, c\u00f4r a cappella o fenywod yng Nghaerdydd, yn ogystal \u00e2 chwarae&#8217;r obo i gerddorfeydd yn Ne a Gorllewin Cymru. Yn 2020, roedd Rachel yn gyd-awdur papur ar addysg cerddoriaeth yng Nghymru ar gyfer y cyhoeddiad rhyngwladol, <em>The Journal for Popular Music Education<\/em>. Yn ddiweddar, bu\u2019n rheoli prosiect Cymru gyfan &#8211; Archwilwyr Jazz Explorers Cymru &#8211; a gyllidwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru.\u00a0 Mae Rachel yn aelod o Eglwys St Margaret yn y Rhath a L.M.A Cathays, lle mae\u2019n aelod o gyngor L.M.A.<\/p>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:33.33%\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"774\" height=\"1024\" src=\"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/cy\/app\/uploads\/2023\/11\/Photo-Rachel-web-774x1024.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4041\" srcset=\"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/app\/uploads\/sites\/2\/2023\/11\/Photo-Rachel-web-774x1024.jpg 774w, https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/app\/uploads\/sites\/2\/2023\/11\/Photo-Rachel-web-227x300.jpg 227w, https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/app\/uploads\/sites\/2\/2023\/11\/Photo-Rachel-web-768x1016.jpg 768w, https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/app\/uploads\/sites\/2\/2023\/11\/Photo-Rachel-web-1162x1536.jpg 1162w, https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/app\/uploads\/sites\/2\/2023\/11\/Photo-Rachel-web-1549x2048.jpg 1549w, https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/app\/uploads\/sites\/2\/2023\/11\/Photo-Rachel-web-scaled.jpg 1936w\" sizes=\"auto, (max-width: 774px) 100vw, 774px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">David Thomas, Organydd Cynorthwyol<\/h2>\n\n\n\n<p>Ganwyd David Geoffrey Thomas yn Llanelli, ac astudiodd gerddoriaeth yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd, gan ennill gwobrau am ganu\u2019r organ ac arwain.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n un o Organyddion Cynorthwyol Eglwys Gadeiriol Llandaf ac yn gerddor proffesiynol llawrydd. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr \u2018Cantores Landavenses\u2019, gr\u0175p o gantorion lled-broffesiynol a arweiniodd yng Nghaerwrangon, Caerwysg, Caersallog,\u00a0\u00a0 Ely, Wells, Truro ac Eglwys Gadeiriol St.Paul\u2019s yn ogystal ag Abaty Westminster. Yn ogystal, mae David wedi cyfeilio i gorau ar yr organ a\u2019r piano ledled y DU ac yn Ffrainc, Yr Iseldiroedd, Sbaen, Awstralia, Seland Newydd, Tsieina, Yr Eidal, Awstria, Malta a Gwlad Belg.<\/p>\n\n\n\n<p>Dysgodd David am flynyddoedd yn Ysgol Howell\u2019s a Choleg y Chweched a bu\u2019n diwtor yng Ngholeg Diwinyddol Mihangel Sant a Bwrdd Cysylltiedig y Colegau Cerdd Brenhinol. Gwnaeth ymchwil i hanes, repertoire, perfformio ac arferion dysgu\u2019r organ a chyhoeddodd erthyglau mewn cyfnodolion cerddorol academaidd. Mae\u2019n Ddarpar Lywydd Cymdeithas Organyddion De Ddwyrain Cymru, cyfeilydd C\u00f4r Polyffonig Caerdydd, organydd C\u00f4r Meibion Treorci ac mae galw mawr amdano fel cyfeilydd ac organydd ar gyfer corau ac unawdwyr ar draws de Cymru ac fel datgeiniad organ.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae wedi chwarae\u2019r organ ar gyfer sawl recordiad CD a darllediadau ar raglenni di-ri ar BBC Radio 2, BBC Radio 4, BBC Radio Wales, BBC Radio Cymru, Teledu\u2019r BBC, Teledu Annibynnol a S4C. Bu David hefyd yn gysylltiedig \u00e2 recordio cerddoriaeth ffilm ar gyfer Sky Telelevision a recordiodd CD unigol o organ hanesyddol Eglwys Ioan Fedyddiwr, Troed-y-Rhiw yn ne Cymru. Mae darlledu wedi chwarae rhan fawr ym mywyd David; Dechreuodd ei yrfa ddarlledu fel Cyhoeddwr ar y BBC, ers hynny mae wedi cynhyrchu a chyflwyno ei gyfres ei hun o raglenni am gerddoriaeth glasurol, opera, cerddoriaeth gorawl a cherddoriaeth \u2018canol y ffordd\u2019 yn Gymraeg a Saesneg. Mae David bellach yn brysur yn dysgu nifer o fyfyrwyr organ yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, yn chwarae i fyfyrwyr datganiadau ym Mhrifysgol Caerdydd a dosbarthiadau meistr ac yn trefnu ac yn cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer corau. Mae hefyd yn weithgar fel pianydd a threfnydd ym maes jazz a cherddoriaeth ysgafn ac mae wedi trefnu a chwarae i ensembles ac artistiaid di-ri gan gynnwys Charlotte Church a Bryn Terfel. Mae hefyd wedi gweithio fel unawdydd piano i sawl cadwyn o westai mawreddog, tai bwyta, bariau coctel ac ar longau<strong>.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Philip Aspden, Organydd Cynorthwyol<\/h2>\n\n\n\n<p>Astudiodd Philip Aspden Gerddoriaeth ym Mhrifysgol Reading a dysgodd ganu\u2019r organ yng Nghapel San Sior, Castell Windsor, o dan hyfforddiant Philip Scriven a Roger Judd. Derbyniodd Gymrawd Coleg Brenhinol yr Organyddion, yn 21 oed. Wrth fyw yn Reading, gwasanaethodd Philip mewn sawl eglwys blwyf, gan gynnwys St. Mary-the-Virgin, Henley-on-Thames.<\/p>\n\n\n\n<p>Penodwyd Philip yn Gyfarwyddwr Cerdd Cynorthwyol yng Ngholeg St George\u2019s, Weybridge yn 1996, gyda chyfrifoldeb am G\u00f4r y Capel. Yn 2005 cafodd ei ddyrchafu\u2019n Gyfarwyddwr Cerdd yn Ysgol Reading. Symudodd Philip i Gaerdydd yn 2011, gan ddod yn Gyfarwyddwr Cerdd Ysgol y Gadeirlan yn Llandaf; am 10 mlynedd, cyfeiliodd i G\u00f4r Merched Ysgol y Gadeirlan yn eu gosber corawl ddwywaith yr wythnos yn Eglwys Gadeiriol Llandaf.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar \u00f4l ailstrwythuro darpariaeth gerddorol y Gadeirlan ym mis Medi 2021, cynigiwyd r\u00f4l Organydd Cynorthwyol i Philip, ac mae\u2019n cyfeilio fel arfer mewn un gwasanaeth yr wythnos yn ystod tymor yr ysgol. Mae hefyd yn aelod o G\u00f4r y Gadeirlan ers blynyddoedd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Philip wedi cynnal cysylltiad \u00e2&#8217;r Erleigh Cantors (Reading) a Ch\u00f4r Bach Caerdydd ers blynyddoedd. Yn fwyaf diweddar, cyfeiliodd i G\u00f4r Tabernacl Treforys (Abertawe). Mae Philip wedi chwarae mewn nifer o eglwysi cadeiriol ac eglwysi mawr y DU, ac mae\u2019n rhoi ambell ddatganiad ar yr organ. Ffefryn personol iddo yw\u2019r datganiad hwnnw yn Eglwys Gadeiriol St Paul\u2019s yn 1998.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Stephen Moore, Cyfarwyddwr Cerdd Stephen Moore yw Cyfarwyddwr Cerdd Eglwys Gadeiriol Llandaf lle mae\u2019n goruchwylio holl ddarpariaeth gerddorol adran brysur sy&#8217;n canu mewn saith gwasanaeth yr wythnos. Yn Llandaf, mae\u2019n cyfarwyddo Corau\u2019r Gadeirlan yn y rownd wythnosol o wasanaethau corawl, cyngherddau, darllediadau a theithiau. O dan ei gyfarwyddyd, mae&#8217;r c\u00f4r wedi ymddangos yn gyson mewn &hellip; <a href=\"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/cy\/music\/music-department-staff\/\">Continued<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":4,"featured_media":3743,"parent":8,"menu_order":1,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"class_list":["post-841","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Staff yr Adran Gerdd - Eglwys Gadeiriol Llandaf<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/cy\/music\/music-department-staff\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Staff yr Adran Gerdd - Eglwys Gadeiriol Llandaf\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Stephen Moore, Cyfarwyddwr Cerdd Stephen Moore yw Cyfarwyddwr Cerdd Eglwys Gadeiriol Llandaf lle mae\u2019n goruchwylio holl ddarpariaeth gerddorol adran brysur sy&#8217;n canu mewn saith gwasanaeth yr wythnos. Yn Llandaf, mae\u2019n cyfarwyddo Corau\u2019r Gadeirlan yn y rownd wythnosol o wasanaethau corawl, cyngherddau, darllediadau a theithiau. O dan ei gyfarwyddyd, mae&#8217;r c\u00f4r wedi ymddangos yn gyson mewn &hellip; Continued\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/cy\/music\/music-department-staff\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Eglwys Gadeiriol Llandaf\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2024-02-08T11:30:29+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/staging.llandaffcathedral.org.uk\/app\/uploads\/sites\/2\/2023\/09\/20230709_ADP_2594-scaled.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2560\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1707\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"10 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/cy\/music\/music-department-staff\/\",\"url\":\"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/cy\/music\/music-department-staff\/\",\"name\":\"Staff yr Adran Gerdd - Eglwys Gadeiriol Llandaf\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/cy\/music\/music-department-staff\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/cy\/music\/music-department-staff\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/app\/uploads\/sites\/2\/2023\/09\/20230709_ADP_2594-scaled.jpg\",\"datePublished\":\"2023-02-09T11:45:33+00:00\",\"dateModified\":\"2024-02-08T11:30:29+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/cy\/music\/music-department-staff\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/cy\/music\/music-department-staff\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/cy\/music\/music-department-staff\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/app\/uploads\/sites\/2\/2023\/09\/20230709_ADP_2594-scaled.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/app\/uploads\/sites\/2\/2023\/09\/20230709_ADP_2594-scaled.jpg\",\"width\":2560,\"height\":1707,\"caption\":\"Llandaff Cathedral Choir Photo Shoot at Cathedral Cl, Llandaff, Cardiff, Wales on 09 July 2023. Photo: Adam Davies\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/cy\/music\/music-department-staff\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Cerddoriaeth\",\"item\":\"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/cy\/music\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Staff yr Adran Gerdd\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/cy\/\",\"name\":\"Eglwys Gadeiriol Llandaf\",\"description\":\"\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Staff yr Adran Gerdd - Eglwys Gadeiriol Llandaf","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/cy\/music\/music-department-staff\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Staff yr Adran Gerdd - Eglwys Gadeiriol Llandaf","og_description":"Stephen Moore, Cyfarwyddwr Cerdd Stephen Moore yw Cyfarwyddwr Cerdd Eglwys Gadeiriol Llandaf lle mae\u2019n goruchwylio holl ddarpariaeth gerddorol adran brysur sy&#8217;n canu mewn saith gwasanaeth yr wythnos. Yn Llandaf, mae\u2019n cyfarwyddo Corau\u2019r Gadeirlan yn y rownd wythnosol o wasanaethau corawl, cyngherddau, darllediadau a theithiau. O dan ei gyfarwyddyd, mae&#8217;r c\u00f4r wedi ymddangos yn gyson mewn &hellip; Continued","og_url":"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/cy\/music\/music-department-staff\/","og_site_name":"Eglwys Gadeiriol Llandaf","article_modified_time":"2024-02-08T11:30:29+00:00","og_image":[{"width":2560,"height":1707,"url":"https:\/\/staging.llandaffcathedral.org.uk\/app\/uploads\/sites\/2\/2023\/09\/20230709_ADP_2594-scaled.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"10 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/cy\/music\/music-department-staff\/","url":"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/cy\/music\/music-department-staff\/","name":"Staff yr Adran Gerdd - Eglwys Gadeiriol Llandaf","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/cy\/music\/music-department-staff\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/cy\/music\/music-department-staff\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/app\/uploads\/sites\/2\/2023\/09\/20230709_ADP_2594-scaled.jpg","datePublished":"2023-02-09T11:45:33+00:00","dateModified":"2024-02-08T11:30:29+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/cy\/music\/music-department-staff\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/cy\/music\/music-department-staff\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/cy\/music\/music-department-staff\/#primaryimage","url":"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/app\/uploads\/sites\/2\/2023\/09\/20230709_ADP_2594-scaled.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/app\/uploads\/sites\/2\/2023\/09\/20230709_ADP_2594-scaled.jpg","width":2560,"height":1707,"caption":"Llandaff Cathedral Choir Photo Shoot at Cathedral Cl, Llandaff, Cardiff, Wales on 09 July 2023. Photo: Adam Davies"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/cy\/music\/music-department-staff\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Cerddoriaeth","item":"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/cy\/music\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Staff yr Adran Gerdd"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/cy\/#website","url":"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/cy\/","name":"Eglwys Gadeiriol Llandaf","description":"","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/841","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=841"}],"version-history":[{"count":25,"href":"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/841\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4462,"href":"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/841\/revisions\/4462"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/8"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3743"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.llandaffcathedral.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=841"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}