
CROESO I EGLWYS GADEIRIOL LLANDAF
Saif Eglwys Gadeiriol Llandaf ar un o safleoedd Cristnogol hynaf Cymru. Mae’n swatio oddi mewn i blyg serth o ddaear a naddwyd o’r tirlun, mae’n debygol, gan yr Afon Taf nad yw, hyd yn oed heddiw, yn bell iawn o ochr ogleddol prif ran yr adeilad. O ganlyniad, wedi troedio’r gwaered serth neu’r grisiau cerrig, fe ddeuir at yr Eglwys yn sydyn: daw’r ymwelydd wyneb yn wyneb â’r mur gorllewinol canoloesol a rhyfeddol. Offrymwyd addoliad a gweddi yma ers yn gynnar yn y chweched ganrif, a’r ddeubeth hynny yw anadl einioes y gymuned sy’n ymgynnull yma o ddydd i ddydd.
Mae’n wyrth fod yr Eglwys Gadeiriol wedi goroesi o gwbl, a hithau wedi mynd drwy gyfnodau o ddistryw ac adnewyddiad ar hyd y canrifoedd. Parhaodd drwy holl droeon mympwyol amser ac amgylchiad.
Nid amgueddfa yw’r Eglwys Gadeiriol! Dyma’r hyn a gredwn am ei harwyddocâd drwy’r canrifoedd a heddiw, a dyma sut y deallwn ni, ei chymuned byw, ein rôl ni:
Cynulliad Cristnogol o’r Eglwys yng Nghymru, sy’n rhan o’r Cymundeb Anglicanaidd byd-eang, yw Eglwys Gadeiriol Llandaf. Yma mae gorsedd Esgob Llandaf sydd, ar hyn o bryd, hefyd yn Archesgob Cymru. Mae’r Eglwys Gadeiriol yn ffocws pererindod ac ysbrydolrwydd yn Esgobaeth Llandaf ac i Ddinas Caerdydd.
Ein nod felly yw:
Addoli Duw a rhannu efengyl Iesu Grist. Wrth wneud hynny fe estynnir croeso i bawb sy’n dod yma, waeth beth fo eu rhyw, cenedl, cred neu rywioldeb, er mwyn rhannu a throsglwyddo ein hetifeddiaeth Gristnogol gyfoethog, a llawenydd y Ffydd Gristnogol.
Gobeithio y cewch bleser o bori yn y wefan hon, ac y crëir awydd ynoch i ymweld â ni. Efallai mai fel ymwelydd y dewch ond mai fel pererin yr ewch allan! Yn y diwedd, gobeithio y dewch i wybod am gariad Duw tuag at bawb.
Mae ichi groeso llwyr fel gwestai inni, yn ymwelydd yn yr eglwys neu ar-lein. Gobeithio y cewch afael ar rywfaint o arwyddocâd y lle cysegredig a hardd hwn.
Y Tra Pharchedig Gerwyn Capon
Deon Llandaf